Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Drafnidiaeth Gymunedol

25 Medi 2013:

Yn bresennol: Eluned Parrott AC (Cadeirydd), Rebecca Evans AC, Rhodri Glyn Thomas AC, Paul Harding (Eluned Parrott AC), Jacqui Sullivan (Eluned Parrott AC), Alex Phillips (William Powell AC), Will Griffiths (swyddfa Democratiaid Rhyddfrydol Cymru), Wayne Lewis (Bwrdd Iechyd Cwm Taf ), Hattie Woakes (Fforwm Trafnidiaeth Gogledd Sir Benfro), Betsan Caldwell (Cymdeithas Cludiant Cymunedol Cymru)

1      Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Dechreuodd Eluned Parrot y cyfarfod drwy ofyn i'r aelodau gyflwyno'u hunain yn eu tro, a diolchodd iddynt am ddod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar AC, Bethan Jenkins AC ac Ed Bridges (y Comisiynydd Pobl Hŷn a'r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol).

2      Ethol Cadeirydd ac Ysgrifennydd

O dan reolau newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mae'n rhaid ethol cadeirydd ac ysgrifenydd ar gyfer gweithgorau trawsbleidiol. Enwebwyd Eluned Parrot yn gadeirydd a Betsan Caldwell yn ysgrifennydd. 

3      Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ym mis Ionawr yn gywir. Rhoddodd Betsan Caldwell y wybodaeth ddiweddaraf i'r grŵp am y Grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Rhanbarthol y cyfeirir ato yng nghofnod 3.2. Esboniodd fod Cymdeithas Cludiant Cymunedol Cymru (CTA) Cymru wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol ynglŷn â'r elfen Trafnidiaeth Gymunedol o'r grant, gan gynnwys yr elfen Grant Cymorth Cilometr Byw (sy'n wahanol ym mhob rhanbarth. Mae CTA Cymru hefyd wedi cyflwyno diffiniad o wasanaethau trafnidiaeth gymunedol cymwys i'r grŵp gweithredu sy'n cael ei arwain gan Lywodraeth Cymru, ac mae'r diffiniad hwnnw wedi'i dderbyn. Roedd hwn yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol generig sy'n cael eu gweithredu'n ddi-elw. Dywedodd Betsan hefyd fod CTA, yn fwy diweddar, wedi bod yn gweithio ar y rhannau hynny'n ymwneud â thrafnidiaeth gymunedol yn y pedair Strategaeth Rhwydwaith Rhanbarthol drafft, a oedd i'w cyflwyno'n derfynol i Lywodraeth Cymru erbyn mis Rhagfyr.

4      Ad-drefnu Gwasanaethau Iechyd a Mynediad at Wasanaethau Iechyd

4.1     Yn y cyfarfod ym mis Ionawr, roedd Eluned Parrott wedi tynnu sylw at y ffaith bod y newidiadau arfaethedig yn y modd y bydd y Byrddau Iechyd Lleol yn darparu gwasanaethau dros y blynyddoedd nesaf yn debygol o effeithio ar wasanaethau cludo cleifion ac y gallai hynny arwain at gynnydd yn y galw am wasanaethau trafnidiaeth gymunedol. Roedd, felly, yn falch o groesawu Wayne Lewis, Arweinydd Trafnidiaeth Bwrdd Iechyd Cwm Taf a oedd am sôn am faterion yn ymwneud â mynediad.

4.2     Dechreuodd Wayne drwy esbonio bod ganddo gefndir ym maes rheoli byrddau iechyd a gwasanaethau trafnidiaeth i gleifion Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a, chan hynny, roedd ganddo farn gytbwys am y materion dan sylw. Dywedodd wrth y grŵp fod y pwyslais ar wasanaethau cludo cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys (NEPT) wedi dechrau gydag Adolygiad  Griffiths (2010), a gomisiynwyd gan Edwina Hart, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd. Argymhellwyd y dylid sefydlu pedwar prosiect peilot, gan gynnwys un yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf. Mae'r gwasanaethau cludo cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys yn darparu gwasanaeth hanfodol i filoedd o gleifion ar hyd a lled Cymru. Trefnir dros 1.4 miliwn o siwrneiau bob blwyddyn gan ganiatáu i gleifion gael triniaeth fel cleifion allanol, manteisio ar driniaeth dydd a gwasanaethau eraill yn ysbytai'r GIG.

4.3     Nod yr adolygiad oedd sicrhau bod NEPT yn cael ei reoli'n well a'i fod yn canolbwyntio mwy ar y claf, gan ganiatáu mwy o amser i'w hadsefydlu a'u trin, symleiddio prosesau derbyn a rhyddhau cleifion, defnyddio adnoddau'n fwy effeithlon a gwella prosesau caffael a threfniadau prydlesu. Roedd y Gweinidog yn arbennig o awyddus i sicrhau bod y sector gwirfoddol yn cael ei ddefnyddio'r amlach gan mai dim ond 7% o'r siwrneiau oedd yn cael eu darparu gan y sector hwnw bryd hynny.  

4.4     Roedd y materion a nodwyd yn cynnwys:

• Dehongliadau gwahanol o'r meini prawf i'w defnyddio i bennu a oedd rhywun yn gymwys i ddefnyddio trafnidiaeth gymunedol

• System apwyntiadau ysbytai a system archebu trafnidiaeth anghydnaws 

• Gwastraff yn y system, fel y nifer fawr o siwrneiau sy'n cael eu canslo.

• Dryswch ynglŷn â chyfrifoldeb dros archebu trafnidiaeth

• Diffyg cynllunio 

• Gallu'r awdurdodau lleol a'r trydydd sector i ddarparu'r gwasanaeth

• Diffyg gwybodaeth am y math arall o drafnidiaeth sydd ar gael

4.5     Esboniodd Wayne fod llawer o waith wedi'i wneud y llynedd i adolygu'r meini prawf a ddefnyddir i bennu a yw rhywun yn gymwys i ddefnyddio trafnidiaeth gymunedol, sy'n gosod cleifion mewn categorïau yn ôl eu gallu i symud. Seiliwyd hyn ar y model 'Asesu Anghenion y Claf' yn yr Alban ac mae'r gwaith yn cael ei ailadrodd am y 9fed tro ar hyn o bryd. Mae'r adolygiadau'n cael eu treialu yn y pedair canolfan alwadau o amgylch Cymru, gan gynnwys canolfan Tŷ Elai yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf, ac mae'r aelodau hefyd yn cadw llygad ar unrhyw gynnydd mewn ceisiadau am drafnidiaeth.

4.6     Fel rhan o'r gwaith treialu hwn, sylweddolodd Cwm Taf mai ychydig iawn o waith cydygsylltiedig oedd yn digwydd rhwng y sector iechyd, yr awdurdodau lleol a sector cludiant cymunedol. Roedd Wayne wedi gwneud cais llwyddiannus am arian i sefydlu prosiect 'Trawsnewid Trafnidiaeth', a oedd wedi'i seilio ar anghenion claf dychmygol o'r enw Mavis. O ganlyniad i'r prosiect, caiff dulliau mwy integredig eu datblygu yn y rhanbarth i gludo cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys. 

4.7     Mae ymgynghoriad yn mynd rhagddo ynghylch 'Rhaglen De Cymru' sy'n amlinellu'r posibiliadau o ran darparu nifer fechan o wasanaethau ysbytai yn y dyfodol - gofal mamolaeth a newyddenedigol dan arweiniad meddyg ymgynghorol, gwasanaethau i blant sy'n gleifion preswyl a meddyginiaeth brys (damweiniau ac achosion brys) i bobl de Cymru a de Powys. Mae'r cynigion hyn yn cwmpasu 5 ardal Bwrdd Iechyd Lleol ynghyd ag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac mae'r pwyslais ar ddarparu gwasanaeth o'r dwyrain i'r gorllewin yn hytrach nag o'r gogledd i'r de, fel y mae ar hyn o bryd. 

4.8     Holodd Rebecca Evans AC am swyddogaeth trafnidiaeth gyhoeddus, a dywedodd Wayne fod y ddogfen yn cynnwys mwy o bwyslais ar ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gludo cleifion at wasanaethau iechyd, ac i gludo perthnasau sydd am ymweld â nhw. Holodd hefyd am ymgysylltu â phobl hŷn, drwy Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru er enghraifft, ac ychwanegodd Wayne fod hyn wedi'i wneud yn fwy lleol drwy ddefnyddio grwpiau gwirfoddol priodol.

4.9     Dywedodd Wayne fod llu o fentrau a gweithgorau ar y gweill ar hyn o bryd, a bod pryder ynglŷn â'r posibilrwydd i'w gwaith orgyffwrdd a'u methiant i weithio'n gydgysylltiedig. Dywedodd Hattie Woakes fod y Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol unigol wedi treulio cryn dipyn o amser yn gweithio gyda'i gilydd mewn modd mwy cydweithredol a chynhyrchiol, a chytunodd Eluned Parrott fod ôl-troed gwasanaethau cymdeithasol, y Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol a'r Byrddau Iechyd Lleol yn wahanol iawn ac, oherwydd hyn, roedd partneriaethau gwahanol a chymhleth yn datblygu. Dylid seilio unrhyw newidiadau ar asesiadau trylwyr o anghenion y claf yn hytrach nag ar yr arian sydd ar gael.    

4.10   Dywedodd Betsan fod problemau posibl yn gysylltiedig â'r syniad o ddefnyddio trafnidiaeth gymunedol i ddarparu gwasanaethau i lenwi bwlch; ymddengys mai dyma a ddisgwylid yn gynhenid. Roedd hyn yn cynnwys gallu'r sector i ymgymryd â siwrneiau ychwanegol, gan fod y galw bron bob amser yn fwy na'r hyn y gellir ei ddarparu, a chynaliadwyedd hirdymor oherwydd cylchoedd ariannu blynyddol, a oedd yn arwain at ganfyddiad o risg i ddarpar gomisiynwyr gwasanaethau.

4.11   Daeth Eluned Parrott â'r drafodaeth i ben drwy ddiolch i Wayne Lewis am ei gyflwyniad ac i aelodau'r grŵp am eu cyfraniadau.

5      Pynciau i'w trafod mewn cyfarfodydd yn y dyfodol

5.1     Gan fod y drafodaeth flaenorol wedi bod yn go faith, penderfynwyd gohirio eitem 5 (Bwcabus) tan y cyfarfod nesaf. Awgrymwyd hefyd y gellid cynnwys trafodaethau ar weithredu'r Grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Rhanbarthol a'r Strategaethau Rhwydwaith Rhanbarthol, adroddiad y Gymdeithas Cludiant Cymunedol ar Gyflwr y Sector yn 2013 (y disgwylir iddo gael ei gwblhau ym mis Tachwedd), monitro disgwyliadau o ran gallu'r sector Trafnidiaeth Gymunedol i ddarparu gwasanaethau i lenwi bwlch (i gludo cleifion at wasanaethau iechyd yn benodol neu i ymateb i'r gostyngiad mewn llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus) a chraffu ar waith y Gweinidog o ran yr agweddau ar Drafnidiaeth Gymunedol yn yr adroddiad ar Drafnidiaeth Integredig a gyhoeddwyd yn gynharach eleni.    

6      Unrhyw fater arall

        Nid oedd unrhyw fater arall.

7      Dyddiad y cyfarfod nesaf

        Ni nodwyd unrhyw ddyddiad ond caiff ei drefnu eto.